Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:129-138 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

129. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;am hynny yr wyf yn eu cadw.

130. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuoac yn rhoi deall i'r syml.

131. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.

132. Tro ataf a bydd drugarog,yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.

133. Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist,a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli.

134. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.

135. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,a dysg i mi dy ddeddfau.

136. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrauam nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.

137. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,a chywir yw dy farnau.

138. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawnac yn gwbl ffyddlon.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119