Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:128-140 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

128. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,a chasâf lwybrau twyll.

129. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;am hynny yr wyf yn eu cadw.

130. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuoac yn rhoi deall i'r syml.

131. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.

132. Tro ataf a bydd drugarog,yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.

133. Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist,a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli.

134. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.

135. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,a dysg i mi dy ddeddfau.

136. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrauam nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.

137. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,a chywir yw dy farnau.

138. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawnac yn gwbl ffyddlon.

139. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysuam fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.

140. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,ac y mae dy was yn ei charu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119