Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:115-132 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

115. Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.

117. Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,imi barchu dy ddeddfau yn wastad.

118. Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,oherwydd mae eu twyll yn ofer.

119. Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear;am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.

120. Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,ac yr wyf yn ofni dy farnau.

121. Gwneuthum farn a chyfiawnder;paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.

122. Bydd yn feichiau er lles dy was;paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.

123. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.

124. Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.

126. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.

127. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynionyn fwy nag aur, nag aur coeth.

128. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,a chasâf lwybrau twyll.

129. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;am hynny yr wyf yn eu cadw.

130. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuoac yn rhoi deall i'r syml.

131. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.

132. Tro ataf a bydd drugarog,yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119