107. Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.
108. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.
109. Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110. Gosododd y drygionus rwyd i mi,ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.
111. Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
112. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;y mae eu gwobr yn dragwyddol.
113. Yr wyf yn casáu rhai anwadal,ond yn caru dy gyfraith.
114. Ti yw fy lloches a'm tarian;yr wyf yn gobeithio yn dy air.
115. Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
116. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
117. Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,imi barchu dy ddeddfau yn wastad.
118. Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,oherwydd mae eu twyll yn ofer.