Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Fe'th geisiais di â'm holl galon;paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.

11. Trysorais dy eiriau yn fy nghalonrhag imi bechu yn dy erbyn.

12. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;dysg i mi dy ddeddfau.

13. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusauholl farnau dy enau.

14. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenyddsydd uwchlaw pob cyfoeth.

15. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di,ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.

16. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,ac nid anghofiaf dy air.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119