1. Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd,y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
2. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau,ac yn ei geisio ef â'u holl galon,
3. y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg,ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef.
4. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfaui'w cadw'n ddyfal.
5. O na allwn gerdded yn unionsytha chadw dy ddeddfau!
6. Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaidar dy holl orchmynion.
7. Fe'th glodforaf di â chalon gywirwrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8. Fe gadwaf dy ddeddfau;paid â'm gadael yn llwyr.
9. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?Trwy gadw dy air di.
10. Fe'th geisiais di â'm holl galon;paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
11. Trysorais dy eiriau yn fy nghalonrhag imi bechu yn dy erbyn.
12. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;dysg i mi dy ddeddfau.
13. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusauholl farnau dy enau.