Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 118:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Agorwch byrth cyfiawnder i mi;dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.

20. Dyma borth yr ARGLWYDD;y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.

21. Diolchaf i ti am fy ngwrandoa dod yn waredigaeth i mi.

22. Y maen a wrthododd yr adeiladwyra ddaeth yn brif gonglfaen.

23. Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.

24. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 118