Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 118:14-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd.

15. Clywch gân gwaredigaethym mhebyll y rhai cyfiawn:“Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;

16. y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi;y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus.”

17. Nid marw ond byw fyddaf,ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.

18. Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym,ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth.

19. Agorwch byrth cyfiawnder i mi;dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.

20. Dyma borth yr ARGLWYDD;y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.

21. Diolchaf i ti am fy ngwrandoa dod yn waredigaeth i mi.

22. Y maen a wrthododd yr adeiladwyra ddaeth yn brif gonglfaen.

23. Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.

24. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

25. Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.

26. Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD.Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD.

27. Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. changau ymunwch yn yr orymdaithhyd at gyrn yr allor.

28. Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti;fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 118