Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 114:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith,

2. daeth Jwda yn gysegr iddo,ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.

3. Edrychodd y môr a chilio,a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.

4. Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,a'r bryniau fel ŵyn.

5. Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?

6. Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,a chwithau'r bryniau, fel ŵyn?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 114