Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 111:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni,ac yn cofio ei gyfamod am byth.

6. Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoeddtrwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7. Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn,a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;

8. y maent wedi eu sefydlu hyd byth,ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.

9. Rhoes waredigaeth i'w bobl,a gorchymyn ei gyfamod dros byth.Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 111