Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 111:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Diolchaf i'r ARGLWYDD â'm holl galonyng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.

2. Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD,fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.

3. Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith,a saif ei gyfiawnder am byth.

4. Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 111