Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn yr ARGLWYDD y cefais loches;sut y gallwch ddweud wrthyf,“Ffo fel aderyn i'r mynydd,

2. oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwaac yn gosod eu saethau yn y llinyni saethu yn y tywyllwch at yr uniawn”?

3. Os dinistrir y sylfeini,beth a wna'r cyfiawn?

4. Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd,a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd;y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw,a'i olygon yn ei phrofi.

5. Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus,a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.

6. Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus;gwynt deifiol fydd eu rhan.

7. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder,a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 11