Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26. Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

27. a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109