Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:23-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26. Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

27. a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

28. Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.

29. Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.

30. Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109