Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

23. Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26. Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

27. a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

28. Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.

29. Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.

30. Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.

31. Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,i'w achub rhag ei gyhuddwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109