Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Carodd felltithio: doed melltith arno yntau.Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.

18. Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn;suddodd i'w gnawd fel dŵr,ac fel olew i'w esgyrn.

19. Bydded fel y dillad a wisga,ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.

20. Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.

21. Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,gweithreda drosof er mwyn dy enw;oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.

22. Yr wyf yn druan a thlawd,a'm calon mewn gwewyr ynof.

23. Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;fe'm gyrrir ymaith fel locust.

24. Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,a'm corff yn denau o ddiffyg braster.

25. Deuthum yn gyff gwawd iddynt;pan welant fi, ysgydwant eu pennau.

26. Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,achub fi yn ôl dy drugaredd,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109