Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 109:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw fy moliant, paid â thewi.

2. Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,

3. a'm hamgylchu â geiriau casineb,ac ymosod arnaf heb achos.

4. Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,a minnau'n gweddïo drostynt.

5. Talasant imi ddrwg am dda,a chasineb am gariad.

6. Apwyntier un drwg yn ei erbyn,a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.

7. Pan fernir ef, caffer ef yn euog,ac ystyrier ei weddi'n bechod.

8. Bydded ei ddyddiau'n ychydig,a chymered arall ei swydd;

9. bydded ei blant yn amddifada'i wraig yn weddw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 109