1. O Dduw fy moliant, paid â thewi.
2. Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,
3. a'm hamgylchu â geiriau casineb,ac ymosod arnaf heb achos.
4. Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,a minnau'n gweddïo drostynt.
5. Talasant imi ddrwg am dda,a chasineb am gariad.