21. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
22. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.
23. Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;
24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.
26. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;
27. yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,ac wedi colli eu holl fedr.
28. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
29. gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;
30. yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.
31. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
32. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.
33. Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34. y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.