Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifftni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,na chofio maint dy ffyddlondeb,ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.

8. Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,er mwyn dangos ei rym.

9. Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.

10. Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,a'u harbed o law'r gelyn.

11. Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr,ac nid arbedwyd yr un ohonynt.

12. Yna credasant ei eiriau,a chanu mawl iddo.

13. Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd,ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.

14. Daeth eu blys drostynt yn yr anialwch,ac yr oeddent yn profi Duw yn y diffeithwch.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106