Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gwnaethant lo yn Horeb,ac ymgrymu i'r ddelw,

20. gan newid yr un oedd yn ogoniant iddyntam ddelw o ych yn pori gwellt.

21. Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,

22. pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.

23. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,sefyll yn y bwlch o'i flaen,i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106