Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:35-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,a difa holl gynnyrch y ddaear.

36. A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,blaenffrwyth eu holl nerth.

37. Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.

38. Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.

39. Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,a thân i oleuo iddynt yn y nos.

40. Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,a digonodd hwy â bara'r nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105