Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:29-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Trodd eu dyfroedd yn waed,a lladdodd eu pysgod.

30. Llanwyd eu tir â llyffaint,hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfeda llau trwy'r holl wlad.

32. Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.

33. Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,a malurio'r coed trwy'r wlad.

34. Pan lefarodd ef, daeth locustiaida lindys heb rifedi,

35. nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,a difa holl gynnyrch y ddaear.

36. A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,blaenffrwyth eu holl nerth.

37. Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.

38. Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.

39. Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,a thân i oleuo iddynt yn y nos.

40. Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,a digonodd hwy â bara'r nefoedd.

41. Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.

42. Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaiddi Abraham ei was.

43. Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd,ei rai etholedig mewn gorfoledd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105