Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Anfonodd y brenin i'w ryddhau—brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;

21. gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,

22. i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.

23. Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,a Jacob i grwydro yn nhir Ham.

24. A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,ac aethant yn gryfach na'u gelynion.

25. Trodd yntau eu calon i gasáu ei bobl,ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.

26. Yna anfonodd ei was Moses,ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,

27. a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddiona gwyrthiau yn nhir Ham.

28. Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll,eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105