2. Canwch iddo, moliannwch ef,dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.
5. Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
6. chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,disgynyddion Jacob, ei etholedig.
7. Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
8. Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9. sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac—
10. yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11. a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”
12. Pan oeddent yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13. yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,
14. ni adawodd i neb eu darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15. a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”
16. Pan alwodd am newyn dros y wlad,a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17. yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18. Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,
19. nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.