Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:18-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,

19. nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.

20. Anfonodd y brenin i'w ryddhau—brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;

21. gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,

22. i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.

23. Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,a Jacob i grwydro yn nhir Ham.

24. A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,ac aethant yn gryfach na'u gelynion.

25. Trodd yntau eu calon i gasáu ei bobl,ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.

26. Yna anfonodd ei was Moses,ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,

27. a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddiona gwyrthiau yn nhir Ham.

28. Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll,eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.

29. Trodd eu dyfroedd yn waed,a lladdodd eu pysgod.

30. Llanwyd eu tir â llyffaint,hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfeda llau trwy'r holl wlad.

32. Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.

33. Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,a malurio'r coed trwy'r wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105