Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 105:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”

16. Pan alwodd am newyn dros y wlad,a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,

17. yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,Joseff, a werthwyd yn gaethwas.

18. Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,

19. nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.

20. Anfonodd y brenin i'w ryddhau—brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;

21. gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,

22. i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.

23. Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,a Jacob i grwydro yn nhir Ham.

24. A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,ac aethant yn gryfach na'u gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 105