1. Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw,gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
2. Canwch iddo, moliannwch ef,dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.