24. Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25. Dyma'r môr mawr a llydan,gydag ymlusgiaid dirifedia chreaduriaid bach a mawr.
26. Arno y mae'r llongau yn tramwyo,a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
27. Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat tii roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28. Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd;pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.
29. Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir;pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant,a dychwelyd i'r llwch.
30. Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu,ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear.
31. Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth,a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.
32. Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu;pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu.
33. Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw,rhof foliant i Dduw tra byddaf.
34. Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo;yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.