Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 104:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. a'th orchuddio â goleuni fel mantell.Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,

3. yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd,yn cymryd y cymylau'n gerbyd,yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,

4. yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr,a'r fflamau tân yn weision.

5. Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,fel na fydd yn symud byth bythoedd;

6. gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn,ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.

7. Gan dy gerydd di fe ffoesant,gan sŵn dy daranau ciliasant draw,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 104