Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 103:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawndera barn i'r holl rai gorthrymedig.

7. Dysgodd ei ffyrdd i Moses,a'i weithredoedd i blant Israel.

8. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

9. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,nac yn meithrin ei ddicter am byth.

10. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.

11. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;

12. cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewiny pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.

13. Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.

14. Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,yn cofio mai llwch ydym.

15. Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—

16. pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.

17. Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldebar y rhai sy'n ei ofni,a'i gyfiawnder i blant eu plant,

18. i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod,yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.

19. Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd,ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.

20. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion,y rhai cedyrn sy'n gwneud ei air,ac yn ufuddhau i'w eiriau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 103