Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 103:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;

12. cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewiny pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.

13. Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.

14. Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,yn cofio mai llwch ydym.

15. Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—

16. pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 103