Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 103:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.

2. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:

3. ef sy'n maddau fy holl gamweddau,yn iacháu fy holl afiechyd;

4. ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll,ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;

5. ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiaui adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.

6. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawndera barn i'r holl rai gorthrymedig.

7. Dysgodd ei ffyrdd i Moses,a'i weithredoedd i blant Israel.

8. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

9. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,nac yn meithrin ei ddicter am byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 103