Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 102:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt;yr wyf yn darfod o beidio â bwyta.

5. Oherwydd sŵn fy ochneidioy mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd.

6. Yr wyf fel pelican mewn anialwch,ac fel tylluan mewn adfeilion.

7. Yr wyf yn methu cysgu,ac fel aderyn unig ar do.

8. Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser,a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith.

9. Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,ac yn cymysgu fy niod â dagrau,

10. o achos dy lid a'th ddigofaint,oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.

11. Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.

12. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,a phery dy enw dros y cenedlaethau.

13. Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;y mae'n adeg i dosturio wrthi,oherwydd fe ddaeth yr amser.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 102