Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 100:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2. Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd,dewch o'i flaen â chân.

3. Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym,ei bobl a defaid ei borfa.

4. Dewch i mewn i'w byrth â diolch,ac i'w gynteddau â mawl.Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.

5. Oherwydd da yw'r ARGLWYDD;y mae ei gariad hyd byth,a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 100