9. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
10. caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
11. Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”
12. Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.
13. Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?
14. Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;arnat ti y dibynna'r anffodus,ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.
15. Dryllia nerth y drygionus a'r anfad;chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.
16. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd;difethir y cenhedloedd o'i dir.
17. Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus;yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,
18. yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig,rhag i feidrolion beri ofn mwyach.