2. Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.
3. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.
4. Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.
5. Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.
6. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”
7. Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.
8. Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;gwylia ei lygaid am yr anffodus.
9. Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;llecha er mwyn llarpio'r truan,ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
10. caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
11. Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”
12. Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;nac anghofia'r anghenus.