Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 7:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr,a dydd marw yn well na dydd geni.

2. Y mae'n well mynd i dŷ galarna mynd i dŷ gwledd;oherwydd marw yw tynged pawb,a dylai'r byw ystyried hyn.

3. Y mae tristwch yn well na chwerthin;er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.

4. Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.

5. Y mae'n well gwrando ar gerydd y doethna gwrando ar gân ffyliaid.

6. Oherwydd y mae chwerthin y ffŵlfel clindarddach drain o dan grochan.Y mae hyn hefyd yn wagedd.

7. Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.

8. Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,ac amynedd yn well nag ymffrost.

9. Paid â rhuthro i ddangos dig,oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.

10. Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.

11. Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.

12. Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.

13. Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?

14. Bydd lawen pan yw'n dda arnat,ond yn amser adfyd ystyria hyn:Duw a wnaeth y naill beth a'r llall,fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 7