6. Paid â gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid â dweud o flaen y cennad, “Camgymeriad oedd hyn.” Pam y dylai Duw gasáu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?
7. Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.
8. Os gweli'r tlawd yn cael ei orthrymu, a bod rhai yn atal barn a chyfiawnder mewn talaith, paid â synnu at yr hyn sy'n digwydd; oherwydd y mae un uwch yn gwylio pob swyddog, a rhai uwch eto drostynt ill dau.
9. Y mae cynnyrch y tir i bawb; y mae'r brenin yn cael y tir sydd wedi ei drin.
10. Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
11. Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno?
12. Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
13. Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog,
14. a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo.
15. Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
16. Y mae hyn hefyd yn ddrwg poenus: yn union fel y daeth, yr â pob un ymaith; a pha elw sydd iddo, ac yntau wedi llafurio am wynt?
17. Y mae wedi treulio'i ddyddiau mewn tywyllwch a gofid, mewn dicter mawr a gwaeledd a llid.
18. Dyma'r hyn a welais: y mae'n dda a gweddus i ddyn fwyta ac yfed, a chael mwynhad o'r holl lafur a gyflawna dan yr haul yn ystod dyddiau ei fywyd, a roddwyd iddo gan Dduw; dyna yw ei dynged.
19. Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
20. Yn wir ni fydd yn meddwl yn ormodol am ddyddiau ei fywyd, gan fod Duw yn ei gadw'n brysur â llawenydd yn ei galon.