Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.

2. Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.

3. Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorchwylion yn cynyddu, a siarad ffôl pan bentyrrir geiriau.

4. Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.

5. Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 5