Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Tymor i Bob Peth

1. Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:

2. amser i eni, ac amser i farw,amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd;

3. amser i ladd, ac amser i iacháu,amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;

4. amser i wylo, ac amser i chwerthin,amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

5. amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu,amser i gofleidio, ac amser i ymatal;

6. amser i geisio, ac amser i golli,amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;

7. amser i rwygo, ac amser i drwsio,amser i dewi, ac amser i siarad;

8. amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?

10. Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.

11. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd.

12. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da,

13. a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur.

14. Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu.

15. Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.

Anghyfiawnder

16. Hefyd gwelais dan yr haul fod drygioni wedi cymryd lle barn a chyfiawnder.

17. Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu'r cyfiawn a'r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.”

18. Dywedais wrthyf fy hun, “Y mae Duw yn profi pobl er mwyn iddynt weld eu bod fel yr anifeiliaid.”

19. Oherwydd yr un peth a ddigwydd i bobl ac anifeiliaid, yr un yw eu tynged; y mae'r naill fel y llall yn marw. Yr un anadl sydd ynddynt i gyd; nid oes gan neb dynol fantais dros anifail. Y mae hyn i gyd yn wagedd.

20. Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.

21. Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?

22. Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?