Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 11:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda.

7. Y mae goleuni'n ddymunol, a phleser i'r llygaid yw gweld yr haul.

8. Os bydd rhywun fyw am flynyddoedd maith, bydded iddo fwynhau'r cyfan ohonynt; ond fe ddylai gofio y bydd dyddiau tywyllwch yn niferus. Y mae'r cyfan sy'n digwydd yn wagedd.

9. Ŵr ifanc, bydd lawen yn dy ieuenctid, a bydded iti fwynhad yn nyddiau dy lencyndod; rhodia yn ôl dymuniad dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, ond cofia y bydd Duw yn dy alw i farn am hyn i gyd.

10. Symud ddicter o'th galon, a thro flinder oddi wrthyt; y mae mebyd ac ieuenctid yn wagedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 11