Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd,ac fe'i cei'n ôl ymhen dyddiau lawer.

2. Rhanna dy gyfran rhwng saith neu wyth,oherwydd ni wyddost pa drychineb a ddaw ar y ddaear.

3. Os yw'r cymylau yn llawn glaw,y maent yn ei arllwys ar y ddaear;os syrth coeden i'r de neu i'r gogledd,y mae'n aros lle y disgyn.

4. Ni fydd yr un sy'n dal sylw ar y gwynt yn hau,na'r un sy'n gwylio'r cymylau yn medi.

5. Megis nad wyt yn gwybod sut y daw bywyd i'r esgyrn yng nghroth y feichiog, felly nid wyt yn deall gwaith Duw, yr Un sy'n gwneud popeth.

6. Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda.

7. Y mae goleuni'n ddymunol, a phleser i'r llygaid yw gweld yr haul.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 11