Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr hyn a fu a fydd,a'r hyn a wnaed a wneir;nid oes dim newydd dan yr haul.

10. A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano,“Edrych, dyma beth newydd”?Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith,y mae'n bod o'n blaenau ni.

11. Ni chofir am y rhai a fu,nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl;ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.

12. Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem.

13. Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch.

14. Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.

15. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam,na chyfrif yr hyn sydd ar goll.

16. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 1