Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.

6. Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd;y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus,ac yn dod yn ôl i'w gwrs.

7. Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr,ond nid yw'r môr byth yn llenwi;y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle,ac yna'n llifo allan eto.

8. Y mae pob peth mor flinderusfel na all neb ei fynegi;ni ddigonir y llygad trwy edrych,na'r glust trwy glywed.

9. Yr hyn a fu a fydd,a'r hyn a wnaed a wneir;nid oes dim newydd dan yr haul.

10. A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano,“Edrych, dyma beth newydd”?Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith,y mae'n bod o'n blaenau ni.

11. Ni chofir am y rhai a fu,nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl;ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.

12. Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 1