Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,wrth iddo ymlafnio dan yr haul?

4. Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond y mae'r ddaear yn aros am byth.

5. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.

6. Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de,ac yna'n troi i'r gogledd;y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus,ac yn dod yn ôl i'w gwrs.

7. Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr,ond nid yw'r môr byth yn llenwi;y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle,ac yna'n llifo allan eto.

8. Y mae pob peth mor flinderusfel na all neb ei fynegi;ni ddigonir y llygad trwy edrych,na'r glust trwy glywed.

9. Yr hyn a fu a fydd,a'r hyn a wnaed a wneir;nid oes dim newydd dan yr haul.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 1