Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem:

2. “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr,“gwagedd llwyr yw'r cyfan.”

3. Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,wrth iddo ymlafnio dan yr haul?

4. Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod,ond y mae'r ddaear yn aros am byth.

5. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud,ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 1