9. Yna aethant i orwedd am y nos.Ond deffrôdd Ragwel a galw ato weision y tŷ, ac aethant allan i dorri bedd.
10. “Rhag ofn,” meddai, “i Tobias farw, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd a dirmyg.”
11. Wedi iddynt orffen torri'r bedd, daeth Ragwel yn ôl i'r tŷ a galw ar ei wraig.
12. “Anfon un o'r morynion i'r ystafell,” meddai, “i fynd a gweld a yw'n dal yn fyw. Os yw wedi marw, yr ydym am ei gladdu rhag i neb wybod.”
13. Anfonasant y forwyn felly. Wedi iddynt gynnau lamp ac agor y drws, aeth hi i mewn a chael y ddau yn gorwedd gyda'i gilydd ac yn cysgu'n drwm.
14. Daeth y forwyn allan a dweud wrthynt, “Y mae'n fyw. Ni ddaeth unrhyw niwed iddo.”
15. Yna bendithio Duw'r nef a wnaethant, gan ddweud, “Bendithier di, O Dduw, â phob bendith ddiffuant! Bendithied pobl di yn oes oesoedd!
16. Bendigedig wyt am iti lonni fy nghalon, oherwydd nid yr hyn a ofnwn a fu, ond yn hytrach gwnaethost â ni yn ôl dy fawr drugaredd.
17. Bendigedig wyt am iti drugarhau wrth y ddau unig blentyn yma. Dangos dy drugaredd wrthynt, Arglwydd, a'u cadw'n ddiogel, a chaniatâ iddynt hir oes o lawenydd yn dy drugaredd.”
18. Yna dywedodd wrth ei weision am lenwi'r bedd cyn iddi wawrio.