Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 8:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Aeth y cwmni allan a chloi drws yr ystafell briodas. Yna cododd Tobias o'r gwely a dweud wrthi, “Cod, fy chwaer. Gad inni weddïo ac erfyn ar ein Harglwydd ar iddo drugarhau wrthym a'n harbed.”

5. Cododd hithau, a dechreusant weddïo, gan erfyn am gael eu harbed. Fel hyn y dechreuodd Tobias weddïo: “Bendigedig wyt ti, Dduw ein hynafiaid, a bendigedig fydd dy enw o genhedlaeth i genhedlaeth am byth. Bendithied y nefoedd a'th holl greadigaeth dydi yn oes oesoedd!

6. Tydi a wnaeth Adda, a gwnaethost Efa ei wraig hefyd i fod yn gymorth ac yn gefn iddo, ac o'r ddeuddyn yma y deilliodd yr hil ddynol. Tydi a ddywedodd, ‘Nid da i'r dyn fod ar ei ben ei hun; gwnawn iddo gymar yn gymorth iddo.’

7. Yn awr, felly, nid mewn puteindra yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, ond mewn gwir briodas. Caniatâ dy drugaredd arnaf fi ac arni hithau, er mwyn inni fyw yn hen yng nghwmni'n gilydd.”

8. Ac meddai'r ddau gyda'i gilydd, “Amen, Amen.”

9. Yna aethant i orwedd am y nos.Ond deffrôdd Ragwel a galw ato weision y tŷ, ac aethant allan i dorri bedd.

10. “Rhag ofn,” meddai, “i Tobias farw, ac i ninnau fynd yn gyff gwawd a dirmyg.”

11. Wedi iddynt orffen torri'r bedd, daeth Ragwel yn ôl i'r tŷ a galw ar ei wraig.

12. “Anfon un o'r morynion i'r ystafell,” meddai, “i fynd a gweld a yw'n dal yn fyw. Os yw wedi marw, yr ydym am ei gladdu rhag i neb wybod.”

13. Anfonasant y forwyn felly. Wedi iddynt gynnau lamp ac agor y drws, aeth hi i mewn a chael y ddau yn gorwedd gyda'i gilydd ac yn cysgu'n drwm.

14. Daeth y forwyn allan a dweud wrthynt, “Y mae'n fyw. Ni ddaeth unrhyw niwed iddo.”

Darllenwch bennod gyflawn Tobit 8