1. Wedi iddynt orffen bwyta ac yfed, ac yn dymuno mynd i orwedd, cymerasant y gŵr ifanc a'i hebrwng i'r ystafell briodas.
2. Cofiodd Tobias gyfarwyddyd Raffael; cymerodd afu a chalon y pysgodyn o'r god oedd ganddo, a'u taenu ar farwor offrwm yr arogldarth.
3. Ataliwyd y cythraul gan arogl y pysgodyn, a rhedodd i ffwrdd i barthau pellaf yr Aifft. Ac i ffwrdd â Raffael ar ei ôl, a'i rwymo draed a dwylo yno'n ddiymdroi.
4. Aeth y cwmni allan a chloi drws yr ystafell briodas. Yna cododd Tobias o'r gwely a dweud wrthi, “Cod, fy chwaer. Gad inni weddïo ac erfyn ar ein Harglwydd ar iddo drugarhau wrthym a'n harbed.”
5. Cododd hithau, a dechreusant weddïo, gan erfyn am gael eu harbed. Fel hyn y dechreuodd Tobias weddïo: “Bendigedig wyt ti, Dduw ein hynafiaid, a bendigedig fydd dy enw o genhedlaeth i genhedlaeth am byth. Bendithied y nefoedd a'th holl greadigaeth dydi yn oes oesoedd!
6. Tydi a wnaeth Adda, a gwnaethost Efa ei wraig hefyd i fod yn gymorth ac yn gefn iddo, ac o'r ddeuddyn yma y deilliodd yr hil ddynol. Tydi a ddywedodd, ‘Nid da i'r dyn fod ar ei ben ei hun; gwnawn iddo gymar yn gymorth iddo.’